Nid eill moroedd mawrion, llydain, Guddio pechod o un rhyw; Nis gallodd dylif cadarn Boddi hwn - mae 'nawr yn fyw: Gwaed yr Oen fu ar Galfaria, Haeddiant Iesu a'i farwol glwy, Ydyw'r môr lle caiff ei guddio, Byth ni welir mo'no mwy. Dyma'r gwaed a roes foddlonol Byth ddigonol berffaith Iawn; Ac ar gyfrif hwn y derbyn Euog ddyn faddeuant llawn; Dyma sail i lwch a lludw I obeithio am lanhâd, A nesau mewn hyder duwiol At orseddfa nefol rad. Pan fo Sina i gyd yn mygu, Sain yr udgorn uchaf radd, Câf fyn'd i wledda dros y terfyn, Yn ngrym yr Aberth, heb fy lladd: Mae ynddo'n trigo bob cyflawnder, Llon'd gwagle colledigaeth dyn; Yn yr adwy rhwng y ddwyblaid Gwnaeth heddwch trwy offrymu'i Hun. - - - - - Nid eill moroedd mawrion llydain, Guddio pechod o un rhyw; Ac nis gallodd dylif cadarn E foddi'n wir, mae'n awr yn fyw: Gwaed yr Oen fu ar Galfaria, Haeddiant Iesu a'i farwol glwy, Ydyw'r môr lle caiff ei guddio, Byth ni welir mo'no mwy. Ef yw'r Iawn fu rhwng y lladron, Ddyoddefodd angeu loes; Nerthodd freichiau ei ddienyddwyr I'w hoelio'n greulawn ar y groes: Ac wrth dalu yno'n dyled, Anrhydeddu deddf ei Dad, Hardd ddysgleirio'r oedd cyfiawnder, Ninnau'n rydd trwy'r cymmod rhad.Ann Griffiths 1776-1805 [Mesur: 8787D] gwelir: Bydd melus gofio y cyfammod Capten mawr ein hiechydwriaeth Draw ar gopa bryn Golgotha Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron Pechadur aflan yw fy enw Rhyfedd rhyfedd gan angylion |
Great, wide seas cannot Cover sin of any kind; A firm torrent could not Drown it - it is now alive: The blood of the Lamb who was on Calvary, The merit of Jesus and his mortal wound, Is the sea where it may be hidden, Forever, never to be seen any more. Here is the blood he gave voluntarily Forever a sufficient, perfect Ransom; And on account of this shall guilty Man receive full forgiveness; Here is the basis for dust and ashes To hope for cleansing, And draw near in godly confidence To the gracious, heavenly throne. When all Sinai is smoking, Sounds the trumpet of high degree, I may go to feast over the border, In the force of the Sacrifice, without getting killed: In him is dwelling every fullness, That fills the emptiness of man's loss; In the gap between the two parties He made peace through offering Himself. - - - - - Not all the great wide seas can Hide sin of any kind; And no firm torrent could Truly drown it, it is now alive: The blood of the Lamb who was on Calvary, The merit of Jesus and his mortal wound, Is the sea where it may be hidden, Never to be seen anymore. He is the Atonement who was between the thieves, Who suffered the throes of death; He strengthened the arms of his executors To nail him cruelly on the cross: And while paying there our debt, He honoured the law of his Father, Beautifully shining was righteousness, And we are free through the gracious reconciliation.tr. 2017,22 Richard B Gillion |
|